Join us for the first of our free webinars on poverty related issues.  In this first session you will hear key findings from the recently published Children in Wales 5th Annual Child and Family Poverty Survey Report.  This report shares the experiences and views of practitioners and professionals working with over 33,000 families across Wales and, importantly, hears the voices and experiences of children and young people themselves.  Children in Wales | Children in Wales Annual Child Poverty Survey Report Launched

The findings from the surveys are bleak and unacceptable.  The practitioners' and professionals' survey findings show an increase in debt; an increase in the numbers of children and families struggling emotionally; and an increase in the number of children being hungry.  These findings were echoed in the responses from the children and young people themselves.  Dominant themes from their survey raised issues of poor emotional health, feelings of isolation, depression, anxiety and poverty related bullying. 

Karen McFarlane, author of the report, explores these and many other findings from the survey analysis.  The webinar will give participants a greater understanding of the daily issues faced by many children, young people and families who live in poverty and the impact this has.  It will also provide the opportunity to ask questions about the findings directly to the author. 

Topics covered: 

Key findings from the 5th Annual Child and Family Poverty survey, including: 

* The impact of poverty on children, young people & families 
* Experiences of practitioners & professionals working with children and families 
* The experiences and views of children & young people about the impact of poverty in education, at home and in their communities 

Speaker biography: 

Karen McFarlane, Policy Officer: Poverty and Vulnerable Children, Children in Wales and author of the report 

Karen has worked at Children in Wales for a number of years, on numerous projects.  As part of her current work, Karen facilitates two national networks - the End Child Poverty Network and the Third Sector Additional Needs Alliance.

Who should attend: 

The FREE webinar is open to all practitioners, professionals, volunteers and policy makers who have a remit for children and young people.   


WEBINAR POVERTY SERIES: Session 2 

The Price of Pupil Poverty Guides - 4 November 2021, 10.00 - 11.00am 

Join us for an awareness raising session on The Price of Pupil Poverty Guides (Children in Wales | Price of Pupil Poverty).

Visit the event page here


Ymunwch â ni ar gyfer y cyntaf o’n gweminarau di-dâl ar faterion cysylltiedig â thlodi. Yn y sesiwn gyntaf hon byddwch chi’n clywed canfyddiadau allweddol o Adroddiad 5ed Arolwg Blynyddol Plant yng Nghymru ar Dlodi Plant a Theuluoedd, a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Mae’r adroddiad hwn yn rhannu profiadau a safbwyntiau ymarferwyr a phobl broffesiynol sy’n gweithio gyda mwy na 33,000 o deuluoedd ledled Cymru a hefyd, yn bwysig, mae’n clywed lleisiau a phrofiadau plant a phobl ifanc eu hunain.

Mae canfyddiadau’r arolygon yn llwm ac yn annerbyniol. Mae canfyddiadau arolwg yr ymarferwyr a’r gweithwyr proffesiynol yn dangos cynnydd mewn dyled; cynnydd yn nifer y plant a’r teuluoedd sy’n cael trafferth ymdopi’n emosiynol; a chynnydd yn nifer y plant sy’n llwglyd. Adleisiwyd y canfyddiadau hyn yn yr ymatebion gan blant a phobl ifanc eu hunain. Themâu amlwg yn eu harolwg hwythau oedd iechyd emosiynol gwael, teimlo’n ynysig, iselder, gorbryder, a bwlio cysylltiedig â thlodi.

Bydd Karen McFarlane, awdur yr adroddiad, yn archwilio’r rhain a llawer o ganfyddiadau eraill o ddadansoddiad yr arolwg. Bydd y gweminar yn rhoi gwell dealltwriaeth i’r cyfranogwyr o’r anawsterau mae llawer o blant, pobl ifanc a theuluoedd sy’n byw mewn tlodi yn eu hwynebu’n feunyddiol, ac effaith hynny arnyn nhw. Bydd hefyd yn gyfle i ofyn cwestiynau am y canfyddiadau yn uniongyrchol i’r awdur.

Pynciau fydd yn cael eu cwmpasu:

Canfyddiadau allweddol y 5ed Arolwg Blynyddol o Dlodi Plant a Theuluoedd, gan gynnwys:

  • Effaith tlodi ar blant, pobl ifanc a theuluoedd
  • Profiadau ymarferwyr a phobl broffesiynol sy’n gweithio gyda phlant a theuluoedd
  • Profiadau a barn plant a phobl ifanc am effaith tlodi mewn addysg, gartref ac yn eu cymunedau

Siaradwr a bywgraffiad:

Karen McFarlane, Swyddog Polisi: Tlodi a Phlant Agored i Niwed, Plant yng Nghymru ac awdur yr adroddiad

Mae Karen wedi gweithio yn Plant yng Nghymru ers sawl blwyddyn, ar brosiectau niferus. Fel rhan o’i gwaith cyfredol, mae Karen yn hwyluso dau rwydwaith cenedlaethol – y Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant a Chynghrair Anghenion Ychwanegol y Trydydd Sector.

Pwy ddylai fod yn bresennol:

Mae’r gweminar yn ddi-dâl ac yn agored i bob ymarferydd, gweithiwr proffesiynol, gwirfoddolwr a lluniwr polisi sydd â chylch gorchwyl sy’n ymwneud â phlant a phobl ifanc.


CYFRES O WEMINARAU TLODI: Sesiwn 2

Canllawiau Pris Tlodi Disgyblion

4 Tachwedd 2021, 10.00 - 11.00am

Ymunwch â ni ar gyfer sesiwn cynyddu ymwybyddiaeth ar y Canllawiau Pris Tlodi Disgyblion (Plant yng Nghymru | Pris Tlodi Disgyblion).

Ewch i dudalen y digwyddiad yma



Book tickets

You cannot book tickets for past events.

Registered Charity / Elusen Gofrestredig 1020313. Company limited by guarantee / Cwmni cyfyngedig trwy warant 2805996. Head office / Pencadlys: 21 Windsor Place / Plas Winsor, Cardiff / Caerdydd CF10 3BY
Log in | Powered by White Fuse