WEBINAR POVERTY SERIES: Session 2 

Find out how you can take simple steps to adopting a whole-school approach to poverty-proofing your setting, to ensure that the cost of the school day does not cause barriers to learning and wellbeing for pupils from low income and disadvantaged families. (Children in Wales | Price of Pupil Poverty).

The webinar will provide an opportunity for schools and other settings to gain information, understand the impact poverty has on the everyday school lives of pupils, and provide possible solutions on how to poverty-proof and make a difference.

Sadly as a result of the pandemic, we are seeing a growth in the detrimental impact of poverty on pupils' wellbeing, and increasing financial pressures on families. The Price of Pupil Poverty Guides can be a used as a tool to help mitigate the impact.

Speaker and biography:

Kate Thomas, Price of Pupil Poverty Development Officer, Children in Wales.

The role is funded by the Welsh Government and aims to raise awareness of the Price of Pupil Poverty Guides across Wales. Kate has been with Children in Wales for three years and has a background in Youth Work, Children’s Rights, Participation and Housing.  As part of her work, Kate works with a number of schools across Wales to provide training and to support them in implementing the guides and mitigating the negative impact poverty has on their pupils.

If you would like to be kept informed of our future poverty sessions and other webinars, please complete this form


CYFRES O WEMINARAU TLODI: Sesiwn 2

Ymunwch â ni ar gyfer sesiwn cynyddu ymwybyddiaeth ar y Canllawiau Pris Tlodi Disgyblion (Plant yng Nghymru | Pris Tlodi Disgyblion).

Dewch i ddysgu sut gallwch chi gymryd camau syml at fabwysiadu dull gweithredu ysgol gyfan a fydd yn golygu bod eich lleoliad yn cymryd tlodi i ystyriaeth, er mwyn sicrhau nad yw cost y diwrnod ysgol yn creu rhwystrau i ddysgu a llesiant disgyblion o deuluoedd incwm isel a difreintiedig.

Bydd y gweminar yn gyfle i ysgolion a lleoliadau eraill gasglu gwybodaeth, deall effaith tlodi ar fywydau disgyblion yn yr ysgol bob dydd, a darparu atebion posibl ar gyfer cymryd tlodi i ystyriaeth a gwneud gwahaniaeth.

Gwaetha’r modd, oherwydd y pandemig, rydyn ni’n gweld cynnydd yn effaith niweidiol tlodi ar lesiant disgyblion, a phwysau ariannol cynyddol ar deuluoedd. Mae modd defnyddio’r Canllawiau Pris Tlodi Disgyblion yn offeryn i helpu i liniaru’r effaith.

Siaradwr a bywgraffiad:

Kate Thomas, Swyddog Datblygu Pris Tlodi Disgyblion yn Plant yng Nghymru. 

Ariannir y rôl hon gan Lywodraeth Cymru, a’i nod yw cynyddu ymwybyddiaeth o’r Canllawiau Pris Tlodi Disgyblion ledled Cymru.

Mae Kate wedi bod yn gweithio i Plant yng Nghymru ers tair blynedd, ac mae ganddi gefndir Gwaith Ieuenctid, Hawliau Plant, Cyfranogiad a Thai. Fel rhan o’i swydd, mae Kate yn gweithio gyda nifer o ysgolion ledled Cymru i ddarparu hyfforddiant a’u cefnogi i roi’r canllawiau ar waith a lliniaru effaith negyddol tlodi ar eu disgyblion.

Os hoffech chi gael gwybod am ein sesiynau tlodi yn y dyfodol, a gweminarau eraill, llenwch y ffurflen hon, os gwelwch yn dda

Book tickets

You cannot book tickets for past events.

Registered Charity / Elusen Gofrestredig 1020313. Company limited by guarantee / Cwmni cyfyngedig trwy warant 2805996. Head office / Pencadlys: 21 Windsor Place / Plas Winsor, Cardiff / Caerdydd CF10 3BY
Log in | Powered by White Fuse