Yn ddiweddar mae Plant yng Nghymru wedi bod yn gweithio'n galed i wella'r ffordd rydym yn cyfathrebu รข'n haelodaeth. Byddwch wedi sylwi ein bod wedi diweddaru ein brandio, a wedi bod wrthi'n cwblhau ein gwefan newydd. 

Fel rhan o'r newidiadau hyn, roeddem am gymryd adborth gan ein haelodaeth a gwella'r ffordd rydych yn cael mynediad at eich budd-daliadau aelodaeth.

Rydym yn gyffrous iawn i gyhoeddi bod gennym bellach wefan aelodaeth newydd sy'n ymroddedig i wella eich profiad a'ch mynediad.

Gallwch nawr hawlio eich cyfrif a mewngofnodi

Drwy fewngofnodi, gallwch bellach reoli pa negeseuon ebost a gewch yn eich Mewnflwch ar unrhyw adeg, cael mynediad at godau disgownt hyfforddi sy'n unigryw i'ch aelodaeth, a chael gafael ar adnoddau gan gynnwys InfoFlash Eurochild a'n cylchgrawn chwarterol. 

Rydym hefyd yn ei gwneud hi'n haws i aelodau archebu lle ar ddigwyddiadau unigryw drwy'r safle. Cadwch olwg am fwy o newyddion am hyn cyn bo hir pan fyddwn yn cyhoeddi ein digwyddiad cyntaf! 

Fel rhan o'r system newydd, gall pobl sy'n gweithio i sefydliadau sy'n aelodau (sydd ag aelodaeth ddilys) bellach gael rhan fwyaf o'r buddion drwy'r wefan. Gall sefydliadau mawr gael hyd at 50 o aelodau cysylltiedig fel rhan o'r cynllun newydd! Os yw eich cydweithwyr yn tanysgrifio i'n rhestrau postio yna gallwn eu hychwanegu at eich aelodaeth fel ymlyniad.

Sut i gael mynediad i'ch cyfrif

* Cliciwch Create account (cornel dde uchaf)

* Llenwch y ffurflen fer gyda'ch enw a'ch cyfeiriad ebost

* Dewisiwch cyfrinair

* Gwiriwch eich cyfeiriad ebost (a gwiriwch eich ffolder sothach, rhag ofn)

* Mewngofnodi

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu broblemau gyda mewngofnodi, mae croeso i chi anfon ebost at: [email protected]

Cofiwch, os byddwch yn cyflwyno unigolyn neu sefydliad i'n cynllun aelodaeth, a'u bod yn mynd ymlaen i ymuno, y byddwch yn derbyn cod disgownt o 20% ar gyfer cwrs hyfforddi, diwrnod llawn, Plant yng Nghymru. 

Anfonwch ebost i [email protected] gyda'ch atgyfeiriad.

Registered Charity / Elusen Gofrestredig 1020313. Company limited by guarantee / Cwmni cyfyngedig trwy warant 2805996. Head office / Pencadlys: 21 Windsor Place / Plas Winsor, Cardiff / Caerdydd CF10 3BY
Log in | Powered by White Fuse