Annwyl Aelod
Ysgrifennaf atoch fel sefydliad neu unigolyn sy’n aelod o Plant yng Nghymru i’ch hysbysu am ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol (CCB) arfaethedig a gynhelir ddydd Mercher, 13 Hydref 2021. Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal ar-lein ac anfonir y manylion ymuno atoch mewn neges ar wahân.
Galw am Enwebiadau
Yn unol ag Erthyglau Cymdeithasu Plant yng Nghymru, ysgrifennaf hefyd i wahodd enwebiadau ar gyfer Bwrdd Ymddiriedolwyr Plant yng Nghymru, i ddechrau yn y swydd yn dilyn y CCB.
I baratoi ar gyfer yr etholiadau hyn, fe welwch fod dolenni yn y neges hon i bapurau enwebu ar gyfer Bwrdd yr Ymddiriedolwyr, ynghyd â manylion y cyfansoddiad a rolau’r Ymddiriedolwyr
Enwebiadau ar gyfer Bwrdd yr Ymddiriedolwyr
Eleni, yr Ymddiriedolwyr a fu'n gwasanaethu am y cyfnodau hwyaf, ac y mae gofyn iddynt ildio'u lle, yw David Egan, Jane Newby a Bethan Webber. Gan mai un tymor o wasanaeth y mae Bethan Webber wedi’i gyflawni, mae hi’n gymwys i’w hailenwebu petai’n dymuno hynny. Fodd bynnag, mae David Egan a Jane Newby ill dau wedi cyflawni dau dymor llawn o wasanaeth, a bydd rhaid iddyn nhw ildio’u lle am ddwy flynedd cyn bod yn gymwys i'w henwebu eto. Felly, mae tri lle ar gael ar gyfer etholiadau i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr.
Byddwn yn ddiolchgar dros ben felly petaech yn ystyried p’un a ydych am gynnig enwebiad i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr neu beidio.
Mae croeso i chi gysylltu â mi os bydd gennych unrhyw gwestiynau. Rydym yn ddiolchgar dros ben am gefnogaeth yr Ymddiriedolwyr i'n sefydliad, ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr iawn at dderbyn enwebiadau gennych erbyn dydd Mercher, 8 Medi 2021 gan obeithio y byddwch yn gallu dod i’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.
Yn gywir
Owen Evans
Prif Weithredwr